Darganfod cyllid myfyrwyr
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhan o’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC). Rydym yn rheoli ceisiadau ac yn darparu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr sy’n mynychu’r brifysgol neu'r coleg yng Nghymru.
Rydym ni yma i sicrhau nad yw arian yn rhwystr i chi rhag cael addysg.
Paratowch i wneud cais am gyllid myfyrwyr is-raddedig llawn amser!
Os ydych chi’n dechrau cwrs llawn amser o fis Medi 2026, yna byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid myfyrwyr erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae ceisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau. Ymgeisiwch nawr!
Os ydych yn gymwys ar gyfer cyllid Ffioedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu.
Gallwch wneud cais a rheoli eich cyfrif cyllid myfyrwyr yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
Beth sydd ar gael
Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gan y mwyafrif o fyfyrwyr ddau brif gost i’w dalu: ffioedd dysgu a chostau byw. Rydyn ni yma i helpu gyda'r ddau!
- Benthyciad Ffioedd Dysgu – hyd at £9,790 (ar gyfer myfyrwyr israddedig)
Gallech gael help gyda chostau byw sy’n cynnwys cymysgedd o:
- Benthyciad Cynhaliaeth (ar gyfer myfyrwyr israddedig)
- Grant Cynhaliaeth – nid oes angen i chi ad-dalu hwn (ar gyfer myfyrwyr israddedig)
I gael gwybod pa gyllid y mae gennych hawl iddo ar sail incwm eich cartref, ewch i’n tudalen ynghylch beth sydd ar gael.
Os ydych yn fyfyriwr annibynnol neu wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.
Gcymorth ychwanegol
Gallwch gael cymorth ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru os oes gennych blant neu oedolyn sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd i fyfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.
Lwfans Myfyrwyr Anabl
Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) os oes gennych anabledd, salwch hirdymor neu gyflwr iechyd meddwl fel: dyslecsia, awtistiaeth, ADHD, gorbryder ac iselder. Edrychwch ar ein tudalen DSA am ragor o wybodaeth a darganfod pa gymorth sydd ar gael.
Gall DSA ddarparu offer arbenigol a chymorth arall yn ystod eich astudiaethau, megis:
- gliniadur
- cymerwyr nodiadau ar gyfer dosbarthiadau
- costau teithio
- meddalwedd darllen sgrin
Caiff y cais am DSA ei adolygu ar wahân i'ch prif gais am gyllid i fyfyrwyr a gall gymryd hyd at 14 wythnos i'w gymeradwyo. Ymgeisiwch heddiw i wneud yn siŵr bod gennych bopeth yn ei le yn barod ar gyfer dechrau’ch cwrs.
Pwy all gael cyllid myfyrwyr
Bydd y math o gyllid myfyrwyr y byddwch chi’n gymwys amdano yn dibynnu ar y canlynol:
- eich prifysgol neu goleg
- eich cwrs
- eich oedran
- pa un ai a ydych chi wedi astudio cwrs addysg uwch o'r blaen
- eich cenedligrwydd neu statws preswylio
Am ragor o wybodaeth ynghylch cymhwysedd am gyllid myfyrwyr, ewch draw i’n tudalen pwy sy’n gymwys.
Sut i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr
Gwyliwch ein ffilm i gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr!
Beth yw incwm aelwyd
Rydym ni’n asesu incwm aelwyd i bennu faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth a gewch chi.
Os ydych chi hefyd yn gwneud cais am unrhyw grantiau, bydd angen i ni asesu eich incwm aelwyd.
Golyga hyn y byddwn yn gofyn i’ch rhieni (gyda phwy ydych chi’n byw neu’n dibynnu arnynt yn ariannol) neu’ch partner i gefnogi’ch cais drwy gadarnhau eu hincwm.
Beth i’w ddisgwyl ar eich taith cyllid myfyrwyr
Dyma’r daith arferol i gael cyllid myfyrwyr:
- Rydych chi’n gwneud cais am gyllid myfyrwyr ac yn rhoi manylion eich rhieni neu’ch partner i ni.
- Rydym ni’n gofyn i’ch rhieni neu bartner gefnogi eich cais drwy gadarnhau eu hincwm.
- Byddwn yn pennu’r swm y caniateir i chi ei gael ac yn rhoi gwybod i chi drwy eich cyfrif ar-lein pan mae eich cais wedi’i gymeradwyo.
- Rydych chi’n cofrestru ar eich cwrs, ac mae eich prifysgol neu goleg yn rhoi gwybod i ni fel y gallwn ddechrau eich talu.
- Rydym ni’n talu eich ffioedd dysgu i’ch prifysgol neu goleg, ac rydym ni’n talu unrhyw fenthyciadau neu grantiau i chi ar ddechrau pob tymor.
- Mae angen i chi wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn o’ch cwrs.
- Pan fydd eich cwrs wedi gorffen, byddwch yn dechrau ad-dalu yn y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael. Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) sy’n ymdrin â’r rhain.
Mae’n bwysig eich bod chi’n sicrhau bod eich holl fanylion yn gyfredol. Os bydd unrhyw beth yn newid, yna bydd modd rhoi gwybod i ni gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein.
Cyllid ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig
Mae ceisiadau cyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn 2025 i 2026 nawr ar agor!
Gwiriwch bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn ymgeisio:
Myfyrwyr rhan-amser
Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser nawr ar agor!
Dysgwch beth sydd ar gael a rhagor o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr.
Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
Ni fyddwch yn dechrau ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr tan y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs a’ch bod yn ennill dros y trothwy ad-dalu, sef £547 yr wythnos ar hyn o bryd, £2,372 y mis neu £28,470 y flwyddyn.
Mae faint rydych chi’n ei ad-dalu yn seiliedig ar faint rydych chi’n ei ennill, nid faint rydych chi wedi’i fenthyca.
Ewch i'n tudalen ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr am ragor o wybodaeth.