Cwynion ac apeliadau


Ystyriwn fod cwyn yn cael ei chyflwyno pan welwn pan nad ydych yn fodlon gyda lefel y gwasanaeth rydych wedi ei gael, ac rydych am i ni gywiro pethau. Ystyrir bod apêl yn gais i ailarfarnu penderfyniad a wneir am eich hawl i gael cymorth ariannol.

Gwneud cwyn

Lle bynnag yr oeddech chi'n byw pan wnaethoch gais am gyllid myfyriwr, caiff cwynion eu trin gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sy'n darparu'r gwasanaeth cyllid myfyriwr ar ran Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig.

Apeliadau

Mae apêl yn gais ffurfiol i adolygu ein penderfyniad ar ba un a oes gennych yr hawl i gymorth ariannol ai peidio. Dylai apêl berthyn i benderfyniadau neu gamau ar sail sut yr ydym yn dehongli'r gyfraith neu reoliadau (er enghraifft, ar ba un a oes gennych yr hawl i gymorth ariannol neu faint o gyllid y mae gennych yr hawl iddo).

Rhaid gwneud apeliadau o fewn 12 mis o’r penderfyniad ynghylch eich hawliad. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried apêl ar ôl 12 mis os:

  • ydym yn credu bod rhesymau da dros beidio â gwneud yr apêl o fewn y 12 mis
  • bydd rhagor o dystiolaeth ar gael i gefnogi eich apêl.

Os na fyddwn yn derbyn eich apêl, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam.

Ym mhob achos arall, dylech ddilyn y broses gwyno.