Cyllid Myfyrwyr Cymru i ymarferwyr

Y wybodaeth ddiweddaraf a deunyddiau ategol ynglŷn â’n cynnyrch a’n gwasanaethau cyllid myfyrwyr.

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn wasanaeth a gaiff ei redeg mewn partneriaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydweithio â’n gilydd i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, pan fydd arnynt ei angen fwyaf.

Mae’r adran hon o’r wefan yn darparu cymorth i’r bobl hynny ar draws Cymru sy’n rhoi cyngor i fyfyrwyr ym maes addysg uwch, a’u rhieni. Fe welwch chi wybodaeth am bolisi cyllid myfyrwyr a manylion cyswllt ein timau cymorth i ymarferwyr.

Beth sy’n digwydd yn awr

Y prif ddiweddariadau ar gyfer pob un o’n gwasanaethau

2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Dylech annog eich myfyrwyr i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.

2023 i 2024: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn!

2023 i 2024: Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn helpu myfyrwyr i fod yn barod!

Byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod pan fydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi dechrau.

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn!

Y newyddion diweddaraf

Y newyddion diweddaraf gan Cyllid Myfyrwyr Cymru

24 Mehefin 2024

2024 i 2025: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

2024 i 2025: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

12 Mai 2024

2024 i 2025: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2024 i 2025 ar agor yn awr.

13 Mawrth 2024

2024 i 2025: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!