Trawsgrifiad - Cael eich talu 2024 i 2025


“Cyn dechrau’r tymor bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd. Dyna pam ei bod yn bwysig i chi gwblhau’r camau canlynol!

Yn gyntaf - gwiriwch eich bod wedi cyflwyno'r dystiolaeth ategol gywir (os oes angen) gyda'ch cais. Yna cofrestrwch yn eich prifysgol neu goleg ar ddechrau'r tymor ni fyddwn yn gwneud eich taliad cyllid i fyfyrwyr cyntaf nes i chi wneud hyn.

Hefyd, gwnewch yn siŵr bod gennym eich manylion cyfrif banc cyfredol. Y ffordd hawsaf i wneud hyn yw trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein. Bydd eich cyfrif hefyd yn dangos dyddiadau eich taliadau a’r cais.

Telir eich benthyciad ffioedd dysgu mewn tri rhandaliad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg. Bydd grantiau cynhaliaeth a benthyciadau hefyd yn cael eu talu ar yr un pryd trwy gydol y flwyddyn academaidd. Telir y rhain yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

Dylech ganiatáu ychydig ddyddiau gwaith i’r cronfeydd gyrraedd eich cyfrif banc. Mae mor hawdd â hynny!”