Cyhoeddwyd: 12 Mai 2024 · Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mai 2024

2024 i 2025: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2024 i 2025 ar agor yn awr.

Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd i gwblhau eich cais! Nid oes angen lle wedi’i gadarnhau arnoch mewn prifysgol neu goleg – gallwch ymgeisio nawr (yn agor mewn tab newydd) a diweddaru eich manylion yn ddiweddarach os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os gwnewch gais hwyr, efallai y bydd eich arian yn hwyr hefyd!

Ymgeisiwch nawr! (yn agor mewn tab newydd)

Newyddion cysylltiedig