Cyhoeddwyd: 28 Mai 2024 · Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2024  · Tagiwyd yn:  2024 i 2025

Byddwch yn barod i wneud cais am gyllid myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer 2024 i 2025!


Faint allwch chi ei gael

Ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £18,950 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau Meistr.

Ar gyfer cwrs Doethurol ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £28,655 i helpu gyda'ch cwrs a chostau byw. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau Doethurol.

Sut mae’n cael ei dalu

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.

Pryd fydd ceisiadau yn agor?

Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr Meistr ôl-raddedig a Doethuriaeth ôl-raddedig ar gyfer 2024 i 2025 agor erbyn diwedd mis Mehefin.

Sut allwch chi ymgeisio

Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, dim ond tua 30 munud y mae’n ei gymryd!

Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein presennol i wneud cais, neu greu cyfrif os nad ydych erioed wedi cael cyllid i fyfyrwyr.

Newyddion cysylltiedig

2024 i 2025: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

2024 i 2025: Ceisiadau ar agor ar gyfer cyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

2024 i 2025: Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr!

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau!