Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw
Eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr
Dyma gyfle i gael gwybod beth i’w ddisgwyl ar eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr. Gallwch ddysgu am yr amryw gamau, o’r adeg cyn i chi wneud cais i’r adeg y byddwch yn gwneud eich ad-daliad olaf.
Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 nawr ar agor!
Bydd ceisiadau israddedig rhan-amser 2025 i 2026 yn agor ganol mis Mai.
Cyn i chi wneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod pa fathau o gyllid myfyrwyr sydd ar gael a phwy all ei gael.
Beth sydd ar gael
Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr gael benthyciad i dalu am eu ffïoedd dysgu, a chymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’u costau byw.
Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu cael help ychwanegol ar ben hynny, os oes gennych blant, oedolyn dibynnol neu anabledd.
Pwy sy’n gymwys
Bydd eich cymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar eich cenedligrwydd, eich statws preswylio, eich cwrs a’ch astudiaethau blaenorol.
Telerau ac amodau
Mae’n bwysig darllen y canllaw hwn cyn i chi ymgeisio. Mae'n dweud wrthych beth rydych yn ymrwymo iddo pan fyddwch yn cymryd benthyciad myfyriwr, gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth am delerau presennol y benthyciad.
Gwneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr, pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu a sut y byddwn yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.
Sut mae gwneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod beth yw’r ffordd hawsaf o wneud cais a phryd y mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.
Tystiolaeth i brofi pwy ydych chi
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i chi anfon tystiolaeth atom. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth y gallem ofyn i chi amdano a sut mae anfon y dystiolaeth.
Profi incwm eich cartref
Mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth arnom o incwm eich cartref. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth y gallem ofyn i chi amdano a sut mae anfon y dystiolaeth.
Cael eich cyllid myfyrwyr
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i chi pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo.
Eich Hysbysiad o Hawl
Mae hyn yn cadarnhau beth rydych yn ei gael a phryd
Cael eich cyllid myfyrwyr
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i chi pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo.
Ystod eich astudiaethau
Os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais. Gallai newid eich cais effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael
Newid eich manylion
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae diweddaru eich cyfrif a pha newidiadau y mae angen i chi sôn wrthym amdanynt.
Ailasesu eich hawl
Ailasesiad yw pan fyddwn yn ailgyfrifo eich hawl i gyllid myfyrwyr (faint y gallwch ei gael).
Ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut a phryd y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad.
Ad-dalu eich benthyciad
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y mae’r broses ad-dalu yn gweithio, drwy ddarllen ein canllaw manwl ar-lein