Cam 2: Gwneud cais
Cyrsiau Graddau Meistr ôl-raddedig

Profi incwm eich cartref

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar neu cyn 31 Gorffennaf 2024 yn unig.

Os yw’ch cwrs yn cychwyn cyn neu ar ôl 1 Awst 2024, nid oes angen i chi ddaparu incwm eich cartref.

Os ydych yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref, byddwn yn defnyddio incwm eich cartref i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.

Incwm eich cartref yw:

  • incwm eich rhieni, os ydych dan 25 oed
  • incwm un o’ch rhieni a phartner y rhiant hwnnw, os ydych dan 25 oed
  • incwm eich partner, os ydych yn annibynnol ac yn byw gyda’ch partner. (Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Awst 2018, ni fydd angen gwybodaeth arnom am incwm eich partner oni bai eich bod yn 25 oed neu’n hŷn)
  • incwm eich priod, os ydych yn briod
  • yr incwm yr ydych yn ei gael o’ch cynilion, eich buddsoddiadau neu’ch eiddo eich hun, er enghraifft difidendau neu rent.

Bydd angen i’ch rhieni neu’ch partner roi manylion eu hincwm i ni ar ‘ffurflen PGPFF (Lawrlwythiad PDF 586KB, yn agor mewn tab newydd)’. Ni ddylent anfon ffurflen P60 atom yn lle rhoi manylion eu hincwm i ni. Ni ddylent anfon ffurflen P60 atom yn lle rhoi manylion eu hincwm i ni. Os byddant yn darparu tystiolaeth nad ydym wedi gofyn amdani, gallai hynny arafu’r cais ac mae’n bosibl na fyddant yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Os ydych dan 25 oed ac wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd ac nad ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â’ch rhieni ers dros flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais fel myfyriwr annibynnol.