Sut mae gwneud cais a phryd
Mae ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor!
Sut mae gwneud cais
Efallai fod gennych gyfrif cyllid myfyrwyr yn barod os gwnaethoch astudio’n flaenorol. Fel arall, bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn gwneud cais.
Pryd mae gwneud cais
Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:
- 2024 i 2025
- 2023 i 2024
Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau blwyddyn academaidd olaf eich cwrs. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.
Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais, hyd yn oed os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn. Er, os byddwch yn ymgeisio am eich benthyciad ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn derbyn yr uchafswm. Dysgwch ragor ar ein tudalen beth sydd ar gael.
Ffurflenni cais
Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch.