Cyhoeddwyd: 11 Awst 2022  · Tagiwyd yn:  clirio

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!


Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help. Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol i roi trefn ar eu cyllid myfyrwyr cyn gynted ag sy’n bosibl, drwy ein tudalen newydd sy’n cynnwys canllawiau ynghylch y System Glirio.

Myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto

Ein cyngor i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto yw #PeidiwchGohirioGwneudCais #DontDelayYourPay, ac iddynt wneud cais yn awr (yn agor mewn tab newydd) am gyllid myfyrwyr er mwyn cael eu cyllid cyn gynted ag sy’n bosibl.

Myfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod

Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod ac sydd wedi derbyn lle mewn prifysgol drwy’r System Glirio fewngofnodi (yn agor mewn tab newydd) a diweddaru eu cais. I baratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau, dylent:

  1. Mewngofnodi (yn agor mewn tab newydd) i’w cyfrif ar-lein
  2. Cliciwch ar 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais rydych chi'n ei ddymuno ei newid
  4. O dan y pennawd 'Rheoli eich cyllid myfyriwr', cliciwch ar 'Gweld a rheoli eich ceisiadau’
  5. Cliciwch ar 'Newid eich cais' ac yna cliciwch ar 'Newid eich cais' eto ar y dudalen nesaf
  6. Cliciwch ar 'Prifysgol/coleg a chwrs’
  7. Cliciwch ar 'Cyflwyno' unwaith i nhw nodi a chadarnhau eu newidiadau

Rydym wedi creu rhai adnoddau i chi eu defnyddio gyda’ch myfyrwyr a’u rhannu ar eich gwefan neu’ch sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dylech annog myfyrwyr i fynd i’n tudalen am y System Glirio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, lle gall myfyrwyr gael gafael ar bopeth y mae angen iddynt ei wybod ynghylch #Clirio2022.

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!

Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help.