2024 i 2025: Gallwch nawr wneud cais am LCA a GDLlC AB ar-lein!


Gwneud cais am LCA neu GDLIC AB yn 2024 i 2025? Gallwch nawr gyflwyno'ch cais ar-lein, heb orfod llenwi ffurflen bapur a'i phostio atom!

Dim ond tua 30 munud y mae'n ei gymryd i wneud cais ar-lein, dim ond creu cyfrif neu fewngofnodi.

Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni pan fyddwch yn gwneud cais

Mae’n helpu cael rhywfaint o wybodaeth wrth law pan fyddwch chi’n gwneud cais:

  • Os oes gennych basbort dilys y DU bydd angen i chi roi manylion ohono, peidiwch â phoeni os nad oes gennych un, gallwch anfon gwybodaeth hunaniaeth arall atom yn lle hynny
  • Manylion eich cyfrif banc
  • Os ydych yn byw gyda’ch rhieni neu warcheidwaid, byddwn angen iddynt roi manylion eu hincwm

Os ydych chi eisoes wedi anfon cais papur atom

Nid oes angen gwneud cais ar-lein os ydych eisoes wedi postio’ch cais atom. Byddwn yn prosesu eich cais papur yn lle hynny. Gallai cyflwyno ail un ar-lein ohirio’r un papur rydych chi wedi’i anfon!