Beth sydd ar gael


Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig

Gallech gael benthyciad i helpu gyda chostau eich cwrs. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Gallwch fenthyca hyd at:

  • £29,705 os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027
  • £29,130 os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst 2025 a 31 Gorffennaf 2026

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor. Bydd eich arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.

Er enghraifft, os oeddech yn cael £29,705 ac yn astudio am 5 blynedd, byddech yn cael £5,941 bob blwyddyn wedi’i dalu mewn 3 rhandaliad.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais am eich Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig, hyd yn oed os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn. Os byddwch yn gwneud cais am eich benthyciad ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn derbyn yr uchafswm. Mae cyllid ar gyfer un flwyddyn academaidd wedi’i gapio ar £14,850 ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2026.

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mlwyddyn gyntaf cwrs pum mlynedd, byddech yn derbyn yr uchafswm:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£5,941

Blwyddyn 2

£5,941

Blwyddyn 3

£5,941

Blwyddyn 4

£5,941

Blwyddyn 5

£5,941

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mhedwaredd flwyddyn cwrs pum mlynedd, fyddech yn derbyn yr uchafswm:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£0

Blwyddyn 2

£0

Blwyddyn 3

£0

Blwyddyn 4

£14,850

Blwyddyn 5

£14,850

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mlwyddyn pump, ni fyddech yn derbyn yr uchafswm gan fod y cymorth ar gyfer un flwyddyn academaidd wedi’i gapio:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£0

Blwyddyn 2

£0

Blwyddyn 3

£0

Blwyddyn 4

£0

Blwyddyn 5

£14,850

Fel rheol, bydd eich rhandaliadau terfynol ym mhob blwyddyn academaidd ychydig yn fwy na’ch rhandaliadau eraill.

Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyca, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help ychwanegol

Os ydych yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o Gymru ac os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor, Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

 

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl